Carafanau Sefydlog

Mae gennym garafanau sefydlog moethus i'w llogi.

Yn y carafanau gellir cysgu hyd at 6 o bobl, 1 ystafell gyda gwely dwbwl, 1 ystafell gyda 2 wely sengl a gwely tynnu allan dwbl ychwanegol hefyd yn yr ystafell fyw. Mae microdon, teledu lliw, chwaraewr DVD/CD, oergell, popty maint llawn a gwres ymhob carafan. Ystafell 'molchi: cawod, toiled a basn. 

Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw un o'r carafanau, na cŵn yng ngharafanau'r Wyddfa a Tryfan. 

Darperir:  
Duvet (2 ddwbl a 2 sengl), 6 cobennydd.  Bydd angen i chi ddod â chynfasau/gorchudd duvets  a gorchudd cobennydd, tyweli a llieiniau sychu llestri.  Mae llestri, celfi coginio, cyllyll a ffyrc a.y.y.b. ymhob carafan.  Trydan, nwy a TAW yn gynwysiedig yn y pris.
Blaendal o £100 yr wythnos i'w dalu adeg bwcio.  Gellir talu â cherdyn credyd dros y ffôn neu anfon siec drwy'r post yn daladwy i "Bryn Gloch".  Y gweddill i'w dalu pan gyrhaeddwch.  Ni ellir ad-dalu blaendal.  Gellir cyrraedd ar ôl 1 pm a dylid gadael erbyn 10 y bore olaf.

 

 2009 Wyddfa  Tryfan  Aran Eilio
30 Mai               - 17 Gorff £335 £285 £275 £265
18 Gorffennaf  - 4 Medi £450 £390 £380 £360
5 Medi             - 18 Medi £335 £285 £275 £265
19 Medi          - 23 Hydref £270 £215 £200 £190
24 Hydref      - 31 Hydref £335 £285 £275 £265


             Static caravans